• Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk
  • Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk

Cyfres Amdani: Gêm Beryglus

Richard MacAndrew

Cyfres Amdani: Gêm Beryglus
Cyfres Amdani: Gêm Beryglus

Cyfres Amdani: Gêm Beryglus

Richard MacAndrew

Paperback | Welsh
  • Leverbaar, de levertijd is 4-5 werkdagen.
  • Niet op voorraad in onze winkel
€ 8,95
  • Vanaf €15,- geen verzendkosten.
  • 30 dagen ruiltermijn voor fysieke producten

Omschrijving

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Canolradd. Addasiad Cymraeg Pegi Talfryn o Man Hunt gan Richard MacAndrew. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei harddwch naturiol ac am y llwybrau cerdded. Ond mae'r lle yn cyrraedd y newyddion am reswm arall; mae pobl yn cael eu lladd yn yr ardal. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn...

Mae Gêm Beryglus yn stori drosedd sy’n digwydd yn ardal Bannau Brycheiniog, lle mae llofrudd wedi lladd ei ysglyfaeth gyntaf. Mae'r awdur yn ysgrifennu mewn ffordd ddiddorol, gan ddechrau yn y person cyntaf, sef y llofrudd, ac wedyn newid i’r trydydd person wrth ddilyn yr ymchwiliadau gan yr heddlu a’r ymdrechion i ddal y llofrudd. Mae e’n newid yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau safbwynt, ac fel hyn mae'r darllenydd yn dilyn stori’r llofrudd ar un ochr – ei gynlluniau a'r llofruddiaethau – ac ar yr ochr llall yn dilyn stori’r Ditectif Arolygydd Cadog Williams, y Rhingyll Heledd Davies a’r swyddog fforensig Ffion Roberts. Mae’n ddull effeithiol, oherwydd ar y dechrau mae'r darllenydd yn gwybod beth mae'r llofrudd yn mynd i'w wneud, a hefyd ble, pryd a sut, cyn i’r heddlu wybod. Felly’r dirgelwch yw pam, a phwy yw’r llofrudd mewn gwirionedd. Tra bod y stori yn mynd rhagddi mae’r llofruddiaethau yn dod yn agosach at ei gilydd ac mae sawl trywydd a chliw yn arwain yr heddlu at yr atebion, ac yn y diwedd at uchafbwynt cyffrous. Ar y dechrau ro’n i’n teimlo ychydig bach yn anghyfforddus ynghylch darllen meddyliau llofrudd, ond wedyn dechreuais fod eisiau gwybod mwy am y cymeriadau. Dysgais i fwy am seicoleg trosedd, sut mae'r heddlu yn gweithio mewn sefyllfa fel hyn, a pha mor anodd yw eu gwaith. Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr ar lefel Canolradd, ac mae’r eirfa ar waelod y tudalennau yn ddefnyddiol.

Specificaties

  • Uitgever
    Atebol Cyfyngedig
  • Verschenen
    okt. 2020
  • Bladzijden
    100
  • Genre
    Taalreaders en oefenteksten
  • Afmetingen
    210 x 147 mm
  • EAN
    9781912261291
  • Paperback
    Paperback
  • Taal
    Welsh