• Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk
  • Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk

Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri

Manon Steffan Ros

Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri
Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri

Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri

Manon Steffan Ros

Paperback | Welsh
  • Leverbaar, de levertijd is 4-5 werkdagen.
  • Niet op voorraad in onze winkel
€ 10,50
  • Vanaf €15,- geen verzendkosten.
  • 30 dagen ruiltermijn voor fysieke producten

Omschrijving

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Uwch. Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o Windows of the Mind gan Frank Brennan. Dyma gasgliad o straeon byrion difyr a fydd yn siŵr o wneud i chi feddwl. Dewch i adnabod cymeriadau cymhleth, lleoliadau pell, a straeon fydd yn aros yn eich meddwl am amser maith. Adargraffiad. Cyhoeddwyd...

Beth sydd gennym yn Trwy’r Ffenestri ydy casgliad diddorol o straeon byrion, pob un ohonyn nhw'n cynnig rhywbeth gwahanol i’r darllenydd. Yr uchafbwynt ynddynt ydy 'Agor Drysau', sef stori fer sydd yn dweud hanes menyw ddall ac mae hi wedi cael y cyfle i gael llawdriniaeth er mwyn gweld y byd mae hi wedi bod yn ei golli erioed. Mae’r stori hon yn sefyll allan oddi wrth y gweddill ac fe'm cefais fy hun yn gobeithio y byddai Frank Brennan yn ysgrifennu fersiwn hirach o’r stori hon. Mae gweddill y straeon yn mynd heibio yn eithaf cyflym ac yn glod i’r gwaith addasu gan Manon Steffan Ros, sydd wedi gwneud gwaith ardderchog trwy wneud i chi deimlo fod y straeon yn digwydd mewn amgylchedd Cymraeg a Chymreig. Mae’r ddeialog yn gredadwy ac yn teimlo'n realistig. Mae’r tîm ysgrifennu yn gweithio yn dda gyda’i gilydd, ac mae Manon, sydd yn awdur gwych ei hunan, yn gwneud gwaith hawdd o addasu geiriau Brennan a dod â'r cyfan yn fyw, a hynny efo chwistrelliad bach o'i phersonoliaeth ei hun. Yn fy marn i, daw uchafbwynt arall yn y stori olaf, 'Cyffyrddiad Ysgafn', sef stori rybuddiol am y peryglon o ddilyn y dorf pan ddylech chi wybod yn well. Dyma stori arall roeddech yn gobeithio y byddai Brennan yn ei thrawsnewid yn stori hir. Rydw i’n edrych ar gasgliadau straeon byr fel record hir, neu albwm gerddorol. Beth fyddech yn ei gael hefo Trwy’r Ffenestri ydy casgliad o straeon diddorol, fel traciau neu ganeuon unigol, a hefyd byddech yn cael uchafbwyntiau fel 'Agor Drysau', 'Cyffyrddiad Ysgafn', a’r stori gyntaf, 'Fel Hen Win', un sydd yn edrych ar y cysylltiadau sydd ynghlwm wrth gytundeb busnes. Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd yn gallu darllen ar lefel uwch yn gyfforddus, ac efallai’r rheiny sydd eisiau datblygu eu sgiliau darllen. Doeddwn i ddim yn gweld y llyfr yn anodd i’w ddarllen o gwbl, ac ar gyfer y geiriau newydd roedd yr eirfa ar bob tudalen yn ddefnyddiol iawn. Os dych chi eisiau llyfr y gallwch droi ato am hanner awr yn ddidrafferth – dyma’r llyfr i chi. Byddwn i’n argymell y llyfr hwn i unrhyw un sydd eisiau rhywbeth ychydig bach yn wahanol i bopeth arall sydd ar gael.

Specificaties

  • Uitgever
    Atebol Cyfyngedig
  • Verschenen
    mrt. 2022
  • Bladzijden
    108
  • Genre
    Taalreaders en oefenteksten
  • Afmetingen
    210 x 148 x 8 mm
  • EAN
    9781912261437
  • Paperback
    Paperback
  • Taal
    Welsh

Gerelateerde producten