• No shipping costs from € 15, -
  • Lists and tips from our own specialists
  • Possibility of ordering without an account
  • No shipping costs from € 15, -
  • Lists and tips from our own specialists
  • Possibility of ordering without an account

Cymro i'r Carn, Cofiant Gwilym Prys-Davies

Cofiant Gwilym Prys-Davies

D. Ben Rees

Cymro i'r Carn, Cofiant Gwilym Prys-Davies
Cymro i'r Carn, Cofiant Gwilym Prys-Davies

Cymro i'r Carn, Cofiant Gwilym Prys-Davies

Cofiant Gwilym Prys-Davies

D. Ben Rees

Paperback | Welsh
  • Available, delivery time is 4-5 working days
  • Not in stock in our shop
€16.95
  • From €15,- no shipping costs.
  • 30 days to change your mind and return physical products

Description

Cofiant Gwilym Prys-Davies, gwleidydd craff a fu'n berson dylanwadol a phwysig yn hanes Cymru. Roedd yr awdur yn ei adnabod yn dda gan fod y ddau yn ffrindiau am dros hanner can mlynedd.

Pleser yw cael croesawu o’r diwedd cofiant sylweddol a chytbwys ei farn i un o gewri gwleidyddol mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae’n astudiaeth hollbwysig. Roedd yr awdur yn adnabod ei wrthrych yn dda am nifer fawr o flynyddoedd ac yn gyfaill mynwesol iddo am ddegawdau lawer. Y mae’n gwerthfawrogi ei rinweddau, ei gryfderau a’i gyfraniadau mewn sawl cyfeiriad gwahanol. Yn dilyn ei farwolaeth yn 93 mlwydd oed yn 2017 daeth archif bwysig o’i bapurau i’r Llyfrgell Genedlaethol, a Ben Rees oedd un o’r ymchwilwyr cyntaf i wneud defnydd helaeth ohonynt ar gyfer y llyfr hwn. Mae’r archif yn cynnwys yn arbennig gohebiaeth ddadlennol a diddorol. Mae’r cofiant hefyd yn seiliedig ar waith ymchwil manwl mewn nifer fawr o archifau pwysig eraill. Ac, yn hollol wahanol i Jim Griffiths, Aneurin Bevan a Cledwyn Hughes, sef y gwleidyddion y mae’r Dr D. Ben Rees wedi llunio cofiannau sylweddol iddynt yn barod (gan gynnwys cofiant i Griffiths yn y Saesneg yn ogystal), nid gwleidydd proffesiynol, cyhoeddus yn yr un modd oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies, ond un a lafuriai’n aml yn y dirgel, gan ddylanwadu ar eraill a chyflawni gwyrthiau yn dawel dros Gymru a’r Gymraeg. Gan ei fod yn ŵr swil a diymhongar wrth natur ac yn hoffi byw ei fywyd yn yr encilion, nid pawb a werthfawrogai ei gyfraniad. Yn rhy aml o lawer, cofir am Gwilym Prys-Davies yn bennaf fel yr ymgeisydd aflwyddiannus y Blaid Lafur yn isetholiad nodedig sir Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1966 pan gipiwyd y sedd gan Dr Gwynfor Evans, llywydd Plaid Genedlaethol Cymru ers 1945 – sef ‘isetholiad pwysicaf yr ugeinfed ganrif’ ym marn Ben Rees. Ym 1964 cafodd Gwilym Prys-Davies siom aruthrol na ddewiswyd ef yn ymgeisydd ar gyfer etholaeth sir Feirionnydd. Ond mae llawer iawn mwy i drafod, wrth gwrs. Fel y gwelwn, gwnaeth Gwilym waith arloesol i hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y llysoedd yn ystod y 1960au. Roedd hefyd yn un o’r selogion a frwydrodd i sefydlu S4C ym 1982, ac roedd ei gyfraniad yn amhrisiadwy wrth lunio Deddfau’r Iaith Gymraeg 1967 ac eto 1993. Roedd ei gyfraniad hefyd yn fwy cyffredinol yn sgil ei gefnogaeth i hybu datganoli yng Nghymru o’r 1960au ymlaen. Gweithredodd fel ‘cynghorydd arbennig’ i John Morris AS pan roedd yntau’n Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn y 1970au, roedd yn aelod gweithgar a dylanwadol o Fwrdd Ysbytai Cymru am flynyddoedd, a thaflodd ei hun i ganol bywyd Tŷ’r Arglwyddi gydag ymroddiad a brwdfrydedd. Enillodd barch ei gyd-arglwyddi yn fuan iawn, a phriodol iawn yw’r ffaith i Ben Rees gyflawni’r astudiaeth hon i’r Arglwydd John Morris. Mae Ben Rees yn ogystal wedi meistroli’n llwyr yr elfennau hynny a ddaeth ynghyd i greu personoliaeth a chymeriad ei wrthrych. Yn eu plith mae ei gefndir teuluol yn Llanegryn, sir Feirionnydd, ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth, ei waith o fewn Mudiad Gweriniaethol Cymru, a’i berthynas agos a phwysig gyda Goronwy O. Roberts AS a Huw T. Edwards, ac mae nifer fawr o wleidyddion Llafur eraill yr ugeinfed ganrif yng Nghymru hefyd yn cael eu lle o fewn y stori ryfeddol hon. Llunnir y cyfan o’r testun mewn Cymraeg graenus a darllenadwy. Rhaid llongyfarch yr awdur ar gyhoeddi campwaith pwysig arall a fydd yn derbyn croeso cynnes gan nifer fawr o ddarllenwyr gwerthfawrogol.

Specifications

  • Publisher
    Gwasg y Bwthyn Cyf
  • Pub date
    Nov 2022
  • Pages
    342
  • Theme
    Biography: general
  • Dimensions
    210 x 148 x 22 mm
  • EAN
    9781913996130
  • Paperback
    Paperback
  • Language
    Welsh

related products

Ga je erover schrijven?

Ga je erover schrijven?

Herman Koch
€23.99
De omwenteling

De omwenteling

Suzanna Jansen
€23.99
Nooit meer dezelfde

Nooit meer dezelfde

Coen Verbraak
€19.99
De levens van Claus

De levens van Claus

Mark Schaevers
€49.99
Wat de gek ervoor geeft

Wat de gek ervoor geeft

Alex van Keulen
€20.99