• Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk
  • Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk

Hanes Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis

Prydwen Elfed-Owens

Hanes Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis
Hanes Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis

Hanes Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis

Prydwen Elfed-Owens

Paperback | Welsh
  • Niet leverbaar
€ 6,50
  • Vanaf €15,- geen verzendkosten.
  • 30 dagen ruiltermijn voor fysieke producten

Omschrijving

Cyfrol sy'n dathlu hanes Canu Gwerin yn Eisteddfodau Genedlaethol Cymru a phen-blwydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis yn 65 mlwydd oed. Cronicl unigryw o stori yr enillwyr a'r dylanwadau a lywiodd ddatblygiad y gystadleuaeth ers ei chychwyn yn 1955.

Dyma gyfrol atyniadol a gwerthfawr ar sawl ystyr. Yn y gyfrol hon mae Prydwen Elfed-Owens wedi llwyddo i roi sylw dyledus i un o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a chyda hynny i’r wraig sy’n cael ei choffáu a’i hanrhydeddu drwy’r wobr. Mae cyfraniad neilltuol Ruth Herbert Lewis i faes canu gwerin yng Nghymru yn wybyddus ond teflir goleuni newydd ar Ruth, ei chefndir a’i phersonoliaeth, a hynny drwy atgofion personol ei hwyrion. Cawn ein hatgoffa am ei gwaith dygn yn casglu caneuon gwerin, a hynny drwy atgofion Ieuan ap Siôn am y straeon a adroddwyd iddo gan ei daid, brodor o Sir y Fflint; am Jane Williams, Wyrcws Treffynnon, yr hen wraig a fu’n canu nifer o’r hen ganeuon i Ruth drwy’r ffonograff. Cawn hefyd hanes a chefndir sefydlu cystadleuaeth y wobr goffa gan Dr Rhidian Griffiths. Yr hyn ddaw i’r amlwg yw fod Ruth Herbert Lewis, yng ngeiriau Prydwen Elfed-Owens, yn ‘wraig o flaen ei hamser’, yn wraig neilltuol, ac yn un o argyhoeddiad dwfn, ac mae ymdrech Prydwen i fynd ati i bwyso ar yr Eisteddfod i gynnwys ei henw llawn yn nheitl y wobr goffa yn destun edmygedd. Diolch iddi am sicrhau yn 2019 – 64 mlynedd wedi cyflwyno’r wobr goffa am y tro cyntaf – mai’r teitl bellach fyddai ‘Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis’. Yn ail ran y gyfrol down at yr adran sy’n canolbwyntio ar enillwyr y wobr ar hyd y blynyddoedd. Drwy’r rhestr helaeth o gyn-enillwyr adnabyddus, fe’n hatgoffir o bwysigrwydd gwobr genedlaethol o’r fath, gwobr sy’n anrhydeddu prif gantorion gwerin ein gwlad a thrwy hynny yn anrhydeddu’r grefft o ganu rhai o’n caneuon hynaf. Diolch i Prydwen am fynd ati i chwilota’n fanwl drwy gyhoeddiadau amrywiol ac ar y we er mwyn creu’r rhestr gyflawn hon. Dyma gofnod gwerthfawr, nid yn unig o’r cantorion ond hefyd o gefndir yr enillwyr a’r sawl fu’n eu hyfforddi, y caneuon a ganwyd a phwy fu’n beirniadu, y dylanwadau ar y cantorion a phwy a’u hysbrydolodd ar hyd y daith. Yng ngeiriau’r cystadleuwyr cawn fanylion hynod o ddifyr am yr hyn a’u denodd at ganu gwerin, eu profiadau wrth gystadlu, y cyfleoedd a ddaeth i’w rhan yn sgil ennill y wobr, a myrdd o atgofion eraill. Mae’r cyfan gyda’i gilydd yn creu darlun byw i ni o un agwedd ar ganu gwerin yng Nghymru dros y 60 mlynedd diwethaf. Mae ffasiwn ac arddull y canu hefyd yn cael sylw, a diddorol yw sylwi ar y newid yn repertoire y caneuon gwerin yn y gystadleuaeth ar hyd y blynyddoedd. Bwriad Prydwen Elfed-Owens wrth gyhoeddi’r gyfrol hon oedd ‘dod i adnabod curiad calon Ruth Herbert Lewis a phob un o’r enillwyr’, gan gadw eu henwau a’u hanes yn fyw. Yn sicr, mae hi wedi llwyddo i wneud hynny, a’i wneud mewn arddull gartrefol a chynnes. Mae gwir gariad ac angerdd Prydwen at y Pethe yn llifo drwy’r gyfrol hon, a diolch eto iddi am roi ar gof a chadw wybodaeth sydd mor werthfawr i’r traddodiad cerddorol yng Nghymru.

Specificaties

  • Uitgever
    Gwasg y Bwthyn Cyf
  • Verschenen
    aug. 2019
  • Bladzijden
    184
  • Genre
    Sociale en culturele geschiedenis
  • Afmetingen
    1 x 1 mm
  • EAN
    9781912173242
  • Paperback
    Paperback
  • Taal
    Welsh

Gerelateerde producten

Romeinse kruisiging

Romeinse kruisiging

Ruben van Wingerden
€ 24,99
Hitlers ultieme oorlog

Hitlers ultieme oorlog

Klaas A.D. Smelik
€ 29,99
Schoonvader van Poetins geheim agent

Schoonvader van Poetins geheim agent

Roel van Duijn
€ 29,99
Een laatkoloniaal experiment

Een laatkoloniaal experiment

Karel Davids
€ 29,99