Omschrijving
Cyfrol sy'n dathlu cyfraniad y diweddar Glyn Evans, newyddiadurwr, llenor a bardd talentog, gyda chyfraniadau gan ei deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr.
Un o'r adolygwyr cyson ar wefan Gwales yn ystod dechrau’r degawd hwn oedd Glyn Evans, cyn-olygydd Y Cymro, a sioc i nifer ohonom oedd clywed am ei farwolaeth sydyn yn Ebrill 2014. Braf, felly, oedd gweld bod dwy a fu’n cydweithio ag ef, Marred Glynn Jones a Lowri Rees-Roberts, wedi llunio cyfrol er cof amdano. Mae nifer o bobl wedi cyfrannu i’r gyfrol hon, a sawl un yn tystio i ddylanwad Glyn ar ei yrfa. Yn ddi-ffael, sôn am ei lafur diflino y mae pawb. Lawer gwaith clywn am eiriau'n tasgu o’i deipiadur ac am yr oriau hir a roddai i’w swydd. Roedd e’n foregodwr ac yn aml wrth ei ddesg erbyn chwech, hyd yn oed pan oedd yn byw ym Mhrestatyn ac yn gorfod teithio i Fangor. Fel Glyn Evans, golygydd Y Cymro, yr adnabûm ef orau ond bu hefyd yn gweithio mewn mannau eraill megis Yr Herald, gwasanaeth ar-lein BBC Cymru’r Byd ac ef hefyd fu’n golygu cylchgrawn Yr Enfys, sef cylchgrawn y Cymry ar Wasgar, am flynyddoedd. Yn Eisteddfod Dinbych y gwelais i Glyn ddiwethaf, ac fel y tystia’r gyfrol hon yr oedd wrth ei fodd yn y Brifwyl yn cofnodi ac yn tynnu lluniau o bob math. Dyma un o’r hacs go iawn a oedd yn medru llenwi colofnau ei bapur newydd drwy ei gysylltiadau personol, ac felly, fel y dywed sawl un, yr oedd yna flas unigryw ar yr hyn a gynhyrchai. Roedd hefyd yn awdur nifer o straeon ac yn fardd. Yn y gyfrol hon fe gyhoeddir pytiau o’i greadigaethau ynghyd â rhai o’i golofnau newyddiadurol ac ambell adolygiad. Difyr canfod mai ef oedd awdur colofnau 'Colyn Pigog' yn Y Cymro ac y mae cynnwys y rheiny'n dangos ei ffraethineb ar ei orau. Roedd e hefyd yn ddyn teulu, ac mewn mwy nag un man darllenwn am farwolaeth annhymig Sandy, ei wraig, a hanai o'r Alban. Mae ei gerdd iddi'n ddirdynnol. Braf gweld bod y plant wedi cyfrannu'n helaeth i’r gyfrol a thrwyddyn nhw cawn ddarlun o dad a thaid direidus, cariadus a gofalus. Yn wir, nid oes rhaid bod wedi adnabod Glyn i ddarllen y gyfrol hon. Dyma lyfr sy'n gofnod o waith diflino yr hac papur newydd – ie wir, y dyn a oedd yn ‘byw i sgwennu’.