• No shipping costs from € 15, -
  • Lists and tips from our own specialists
  • Possibility of ordering without an account
  • No shipping costs from € 15, -
  • Lists and tips from our own specialists
  • Possibility of ordering without an account

Llif Coch Awst

10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016

Hywel Griffiths

Llif Coch Awst
Llif Coch Awst

Llif Coch Awst

10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016

Hywel Griffiths

Paperback | Welsh
  • Not available
€9.95
  • From €15,- no shipping costs.
  • 30 days to change your mind and return physical products

Description

Dyma gasgliad cynhwysfawr o gerddi'r prifardd Hywel Griffiths, yn cynnwys cerddi sy'n ymwneud â thir a daear Cymru, ei hinsawdd, ei chymunedau, ei hanes a'i chwedlau.

Fel daearegydd, bydd Hywel Griffiths yn ymwybodol iawn o rymoedd byd natur. Mae’n arbenigwr ar y rhewlifoedd hynny a luniodd ein tirwedd gan adael plethwaith o gymoedd dyfnion a dyffrynnoedd eang ar eu hôl. Nid oes ryfedd, felly, mai nentydd ac afonydd yr hafnau hyn sydd yn dyfrhau a ffrwythloni ei awen yntau hefyd. Y gwaddod a’r gro mân a gariwyd gan eu llif hyd lawr y dyffryn dros y canrifoedd sy’n lliwio’r cerddi. Fe’i magwyd ar fferm i’r gorllewin o Gaerfyrddin rhwng aberoedd Tywi a Thaf ac mae atgofion melys am gynaeafau bore oes yn cyfoethogi’r gyfrol; dyma’i Fern Hill yntau. Yna symudodd ymlaen am lannau Ystwyth gan ennill gradd ddigon da i gael swydd darlithydd yn y Coleg ger y Lli. Yno, wrth edrych allan tua Chantre’r Gwaelod, gresynai fod cymaint o’n cyfoeth diwylliannol o dan y môr a’i donnau. O gofio hyn, mae’n anochel i’w flynyddoedd fel myfyriwr gydredeg â chyfnod o weithredu brwd dros Gymdeithas yr Iaith ac mae’r achos yn dal yn agos at ei galon, fel y dengys ei gerdd i Osian, un o’i hymgyrchwyr diweddaraf. Symudodd ymlaen wedyn i Gwm Eleri gyda’i wraig, Alaw, ac yno yn Nhal-y-bont yr ysgrifennwyd y mwyafrif o gerddi’r gyfrol hon. Yno y ganwyd y plentyn cyntaf, Lleucu Haf, a hynny ychydig ddyddiau cyn i’r llifogydd difrifol daro’r pentref. Dilynwyd hi gan fab, Morgan Hedd, ac mae i’r tri ohonynt le amlwg o fewn y tudalennau. Weithiau, er hynny, bydd dyn yn mynnu ymyrryd â llif yr afonydd hyn drwy gronni’r dyfroedd heb ystyried bywyd y dyffryn yn ei gyfanrwydd, yn amgylcheddol nac yn gymdeithasol. Mae’r naturiaethwr a’r Cymro ynddo yn dal i gofio Tryweryn – a Chwm Elan ac Efyrnwy hefyd. Ac yntau bellach wedi dychwelyd gyda’i deulu at lannau Rheidiol yn Llanbadarn Fawr, cawsom atlas o gyfrol ganddo sy’n mapio’i ddatblygiad fel bardd ac fel person. Pleser pur fu cael dilyn afonydd Cymru yn ei gwmni.

Specifications

  • Publisher
    Cyhoeddiadau Barddas
  • Pub date
    May 2018
  • Pages
    120
  • Theme
    Poetry by individual poets
  • EAN
    9781911584056
  • Paperback
    Paperback
  • Language
    Welsh

related products

Verzamelde gedichten

Verzamelde gedichten

M. Vasalis
€22.50
Marshmallow

Marshmallow

Simone Atangana Bekono
€18.99
Einde en begin

Einde en begin

Wislawa Szymborska
€29.99
Nieuwe gedichten, een bloemlezing

Nieuwe gedichten, een bloemlezing

Rainer Maria Rilke
€17.50