Description
Casgliad o gerddi a gyfansoddwyd rhwng 2003 a 2013 gan Meic Stephens a geir yma - 'Ffrwyth deng mlynedd o bryfocio'r Awen'.
Mae’n anodd meddwl am unrhyw un sydd wedi gwneud mwy o gyfraniad i feirniadaeth a hanes llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig yn ystod yr hanner canrif diwethaf hwn na Meic Stephens. Ac yntau'n feirniad craff, yn hanesydd llenyddol manwl ac yn gofnodwr coffaol dibynadwy, trodd ddeng mlynedd yn ôl at farddoni yn Gymraeg. A chynnyrch y degawd hwnnw yw Wilia. Yn ystod ei ddyddiau coleg y dechreuwyd gwerthfawrogi awen bryfoclyd Meic a'i ganeuon a'i rigymau crafog Saesneg ar faterion Cymreig. Roedd ef – a Harri Webb yn arbennig – yn feirdd ffres a dychanol. A Meic, yn dilyn marwolaeth Harri, a fu’n gyfrifol am ddiogelu gwaith yr athrylith hwnnw. Addas iawn yw bod yma gerdd goffa i Harri, ‘Gweriniaethwr’. A honno i mi, cerdd i’r ‘dyn dansherus’ o Ferthyr Tudful, yw un o’r cerddi mwyaf yn y gyfrol. Bu Meic wastad yn ‘wahanol’ ei weledigaeth. A chryfder mawr y casgliad hwn yw ei ddefnydd o’r Wenhwyseg. Mae hi’n dafodiaith gyda’r pertaf sy’n bod. Yn anffodus, gydag erydiad y Gymraeg rhwng cymoedd Rhymni ac Aman, edwino wnaeth y Wenhwyseg hefyd. Mae gwaith Meic, felly, yn drallwysiad i’w groesawu. Cerddi atgofus am blentyndod a llencyndod y bardd a geir gan mwyaf. Ceir cerddi hefyd yn adlewyrchu ei ymweliadau â gwledydd tramor. Mae ei ddawn ddisgrifiadol gynnil yn nodweddiadol o’i waith mewn cerddi fel ‘Miss Morgans’ ac ‘O, Gyda Llaw’. Ceir yma brofiadau llencyndod sy’n eich taro yn sgil eu cyfeiriadaeth annisgwyl – cerddi fel ‘Lladin’ a ‘Jeanne’. Mae symlrwydd ymddangosiadol rhai o’r cerddi yn dwyllodrus, gan fod y symlrwydd hwnnw’n cuddio dyfnderoedd o deimladau. Ceir yma ambell gerdd hir, rhai o’r rheiny wedi dod yn agos at gipio'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. A fu bardd mwy anlwcus erioed na Meic? Yn fy marn i, mae’r cerddi a fu’n curo ar y drws yn well na llawer o’r pryddestau buddugol a wobrwywyd. Ond ceir nodyn trist. Yn y diolchiadau mae’n mynnu mai’r casgliad hwn yw ei gyfrol gyntaf o gerddi yn y Gymraeg – a’r olaf. Gobeithio y gwnaiff ailfeddwl. Mae ei ddawn farddonol a’i dafodiaith bert yn drysorau rhy gain a gwerthfawr i’w claddu. Cyfraniad gwerthfawr yw’r eirfa sy’n rhestru ‘crucun decha’ o enghreifftiau o eiriau hen dafodiaith y De-ddwyrain. Does yna ddim ‘walu waldod’ yma na ‘brigawlan’ nac unrhyw ‘garlinco’ digyfeiriad. Dim ‘cwafars’. Dim ‘fragots’. Yn hytrach mae yma gerddi ‘dansherus’ a ‘decha’ sy’n gwneud i rywun ‘ddelffo’ arnyn nhw. Mae’r cerddi oll yn ‘biwr digynnig’. Yn wir, fe wnes i eu ‘sglaffo’ nhw.