• Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk
  • Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk

Beirdd Bro'r Eisteddfod: 2. Beirdd Bro Eisteddfod Sir Gâr

Cyhoeddiadau Barddas

Beirdd Bro'r Eisteddfod: 2. Beirdd Bro Eisteddfod Sir Gâr
Beirdd Bro'r Eisteddfod: 2. Beirdd Bro Eisteddfod Sir Gâr

Beirdd Bro'r Eisteddfod: 2. Beirdd Bro Eisteddfod Sir Gâr

Cyhoeddiadau Barddas

Paperback | Welsh
  • Niet leverbaar
€ 11,95
  • Vanaf €15,- geen verzendkosten.
  • 30 dagen ruiltermijn voor fysieke producten

Omschrijving

Yn y gyfrol hon, Geraint Roberts sy'n dwyn ynghyd gynnyrch barddonol beirdd a phrifeirdd Sir Gâr. Gyda chyflwyniad i draddodiad barddol bro'r Eisteddfod gan Tudur Hallam.

Yn dilyn cyhoeddi’r gyfrol Beirdd Bro’r Eisteddfod y llynedd, i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau, roedd yn braf gweld cyfrol gyffelyb yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Sir Gâr eleni. Y golygydd y tro hwn yw Geraint Roberts, y gŵr a oedd yn gadeirydd Is-bwyllgor Llenyddiaeth yr Eisteddfod eleni. Ceir pennod agoriadol yn dwyn y teitl ‘Traddodiad Barddol Sir Gaerfyrddin’, gan Tudur Hallam. Mae hon yn bennod werthfawr, gryno sy’n olrhain traddodiad barddol y sir yn ôl i gyfnodau cynnar llenyddiaeth Gymraeg, ac yn gosod beirdd y sir drwy’r canrifoedd yn eu cyd-destun Cymreig. Datblygodd y traddodiad o gyfnod y cywyddau cynnar drwodd i ganu newydd y vers libre. Pennod lawn gwybodaeth, felly, am rai o ‘geiliogod disgleiriaf y sir’, chwedl yr awdur. Cerddi gan bedwar ar bymtheg o feirdd cyfoes y sir yw cynnwys y gyfrol – pedwar ar ddeg o ddynion a phum merch, ac yn eu plith mae nifer o brifeirdd. Fe'u cyflwynir i ni yn nhrefn yr wyddor, ac mae bywgraffiad byr a diddorol yn rhagflaenu cerddi pob un ohonynt. Fel y gellid disgwyl, mae amrywiaeth eang yng nghynnwys y cerddi a’r mesurau, ac mae lle amlwg i’r caeth a’r rhydd. Yn naturiol, mae nifer fawr o’r cerddi wedi'u gwreiddio yn nhir a daear Sir Gâr, ac eraill yn sôn am wrthrychau a phobl sy’n gysylltiedig â’r lle. O droi at ‘Mene Tecel Sir Gaerfyrddin’ gan Peter Hughes Griffiths, a luniwyd ar gyfer Gŵyl Gyhoeddi'r Eisteddfod eleni, cawn banorama o hanes, traddodiadau ac enwogion y sir, o dderwen Myrddin hyd at ddyddiau ‘Gerald, Grav a Roy a Delme’. Yn ogystal â’r enwau cyfarwydd, mae’n braf gweld yma gerddi mewn print gan feirdd sydd heb gyhoeddi llawer o’u gwaith. Er enghraifft, pleser mawr i mi’n bersonol oedd darllen cerddi Arwyn Evans o Gynghordy, gŵr y cefais y fraint o gydweithio ag ef am flynyddoedd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, a gŵr a fu’n ddylanwad mawr ar y Twm Morys ifanc. Mae gan ei gerddi rhydd ryw naws delynegol hyfryd, ac mae Arwyn yn gynganeddwr medrus iawn hefyd, fel y dengys ei englynion. Er bod y gwragedd yn y lleiafrif yn y gyfrol, mae’r pump sydd yma yn feirdd o’r iawn ryw. Go brin fod angen cyflwyno Mererid Hopwood i lengarwyr Cymru – y ferch sydd eisoes wedi cipio’r Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith yn ein Prifwyl. Mae’r un naws a’r tynerwch ag a gafwyd yn ei hawdl ‘Dadeni’ yn Eisteddfod Sir Ddinbych 2001 i’w canfod yma mewn cerddi megis ‘Alaw’ a ‘Hwiangerdd Afon Tywi’. Ym mhumdegau a chwedegau’r ganrif ddiwethaf fe gyhoeddwyd cyfres o lyfrau mewn cloriau glas yn cynnwys cerddi beirdd gwahanol siroedd, gydag ‘Awen’ yn y teitl, er enghraifft ‘Awen Myrddin’. Rhaid llongyfarch pobl Sir Ddinbych a diolch iddynt am roi cychwyn ar gyfres arall gyffelyb o gynnyrch beirdd bro’r gwahanol eisteddfodau. Wn i ddim a yw’n fwriad gan Faldwyn i barhau â’r gyfres y flwyddyn nesaf pan ddaw’r Eisteddfod i Feifod, ond gobeithio’n fawr y gwneir hynny. Yn y cyfamser, prynwch y gyfrol ddifyr ac amrywiol hon, a mwynhewch beth o gynnyrch beirdd Sir Gâr, gan ddiolch i’r sir honno am roi i ni’r fath ŵyl wych eleni.

Specificaties

  • Uitgever
    Cyhoeddiadau Barddas
  • Verschenen
    jun. 2014
  • Bladzijden
    160
  • Genre
    Poëziebloemlezing (verschillende dichters)
  • EAN
    9781906396718
  • Paperback
    Paperback
  • Taal
    Welsh

Gerelateerde producten

Even zijn wij samen meer

Even zijn wij samen meer

Het Lezerscollectief
€ 29,50
Wil je mij poëzie leren?

Wil je mij poëzie leren?

Willem Jan Otten
€ 20,00
Album van de Caraïbische Poezie

Album van de Caraïbische Poezie

Michiel van Kempen
€ 34,99
Wees welkom boven op mijn beste hoed

Wees welkom boven op mijn beste hoed

Daniel Billiet
€ 24,95
Een mogelijk begin van veel

Een mogelijk begin van veel

Hester van Hasselt
€ 21,99