Omschrijving
Casgliad cynhwysfawr o wyth erthygl ddiddorol, llawn gwybodaeth, yn adlewyrchu agweddau amrywiol ar gyfoeth diwylliant gwerin Dyffryn Aman a chymoedd eraill de Cymru yn yr 19eg ganrif, gan ymchwilydd trylwyr yn y maes. Cyhoeddwyd gyntaf Gorffennaf 2004.
Y bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd dan sylw yma, canrif y bu n ffasiynol meddwl amdani fel un lwydaidd a diflas, rhyw ddydd Sul diddiwedd o ganrif, a phob sychedig un yn yfed dŵr, dŵr, dŵr. Nid felly. Meddai r awdur ar ddiwedd ei bennod ar Bontypridd a r Cylch, sy n gyforiog o gymeriadau a digwyddiadau llachar, Y mae r cyfan yn brawf diymwad nad oedd Cymru r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn wlad mor ddi-liw ac anniddorol ag a dybir yn gyffredin. Amen i hynny, ac y mae gweddill y gyfrol yn brawf o r un peth. Casgliad o erthyglau wedi eu cywain ynghyd o wahanol gyhoeddiadau sydd yma, a chymwynas werthfawr â phawb nad yw r rheini n hygyrch iddynt oedd eu gosod fel hyn rhwng dau glawr. Amhosibl mewn adolygiad byr fyddai gwneud cyfiawnder â r cynnwys. O Sherlyn Benchwiban, anterliwt cynnar (fe deflir ambell gip yn ôl dros ysgwydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg weithiau) hyd at y bennod orlawn o ddeunydd newydd am Amanwy a i ryddiaith gaboledig, down ar draws llu o gymeriadau, nad yw eu henwau efallai, lawer ohonynt, yn gyfarwydd, ond a fyddai n fawr ac ardderchog yn ein chwedl, ys dywed Waldo, pe baem yn genedl. Dyna r hen weinidog garw a phenstiff, Phylip Griffiths yr Allt-wen, a aeth i gwrdd â r gelyn medd-dod ar dudalennau r Diwygiwr, gan lwyddo i ddryllio caerau Bacchus a sobri ardal gyfan. William Morris wedyn, arloeswr anghofiedig ym myd addysg yn ystod y ganrif, un a fu n cynorthwyo i gasglu tystiolaeth ar gyfer y Llyfrau Gleision drwgenwog, ac un a gafodd ei alw n llwfryn difoesau am ei drafferth gan David Rees, golygydd Y Diwygiwr. Pennod gyfoethog yw Y Gwladgarwr a i Ohebwyr , lle ceir hynt a helynt un o brif newyddiaduron Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a detholiad o ddyfyniadau swmpus o rai o i erthyglau, heb sôn am ei lythyrau difyr, yn enwedig y rhai gan ymfudwyr i America a mannau eraill. Coron y gyfrol i mi yw r bennod y cyfeiriwyd ati eisoes am Bontypridd a r Cylch, gwrthwenwyn perffaith i unrhyw un sy n dal i goleddu syniadau henffasiwn am y ganrif ryfeddol hon. Darllener am Dr William Price, Myfyr Morganwg a Morien, dynion galluog bob un, ond wedi mopio n llwyr ar dderwyddiaeth, ac yn cyflawni pob math o gampau lliwgar yn ei henw. A thri yn unig o r ogoneddus dyrfa a fu n troi o gwmpas y Maen Chwyf ar Gomin Pontypridd yw r rhain! Y mae troi tudalennau r gyfrol hon fel mynd ar daith gyfareddol o dan arweiniad tywysydd sy n gwbl gyfarwydd â i diriogaeth. Mynnwch ei cherdded!