Cyfrol sy'n cyflwyno hanes y ffisegydd Evan James Williams, un o'r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed. Bu'n gweithio gyda ffisegwyr byd-enwog, rhai yn enillwyr gwobr Nobel, ac ymysg ei lwyddiannau chwaraeodd ran allweddol yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd.
Mae Rowland Wynne yn ysgolhaig annibynnol gyda chefndir mewn ffiseg. Sbardunwyd ei ddiddordeb yn Evan James Williams gan ymweliad ag Archif Niels Bohr ym Mhrifysgol Copenhagen.