• Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk
  • Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk

Morwyr y Cilie

Jon Meirion Jones

Morwyr y Cilie
Morwyr y Cilie

Morwyr y Cilie

Jon Meirion Jones

Paperback | Welsh
  • Niet leverbaar
€ 19,95
  • Vanaf €15,- geen verzendkosten.
  • 30 dagen ruiltermijn voor fysieke producten

Omschrijving

Cyfrol hynod ddiddorol yn olrhain cysylltiad un-ar-ddeg o aelodau teulu'r Cilie â'r môr, dros dair cenhedlaeth, ynghyd â manylion am y llongau yr hwyliasant arnynt. Chwaer-gyfrol i Teulu'r Cilie. Dros 300 o ffotograffau du-a-gwyn.

Drwy rodio mynwentydd glannau Bae Ceredigion, buan y sylweddolir pa mor bwysig oedd y môr ym mywydau trigolion y tir mawr. Yn wir, wrth ddarllen yr arysgrifau ar gofebau capteiniaid a morwyr cyffredin, fel ei gilydd, yn enwedig y beddfeini hynny sy n cofnodi marwolaethau r rheini a foddwyd ymhell oddi cartref, anodd yn yr oes sydd ohoni yw iawn ddeall ac amgyffred rhyddid a rhamant y môr a r modd yr ymyrrodd cyfaredd y cefnforoedd â bywydau r sawl a aeth i forio. Ac roedd epil y Cilie/Uwch y lan yn rhan o r we a ufuddhaodd i daer ymbil y lli, ac yn y gyfrol swmpus hon (ix446 tt) adroddir hanes ac anturiaethau yr un morwr ar ddeg o dylwyth enwog y Cilie. Dyrchafwyd Dafydd Jeremiah Williams a i frawd John Etna Williams, ynghyd â u cefnder John Alun Jones (Jac Alun), yn gapteiniaid llongau masnach, tri gwron dewr a gwrol a dreuliodd oes yn tramwyo r tonnau cyn llyncu angor a dychwelyd adref yn ystod 1970au ac 80au r ganrif ddiwethaf. Nid y lleiaf rhyfeddol o brofiadau Dafydd Jeremiah oedd cwrdd ag Almaenwr talsyth yn Bremen, yr Almaen, yn 1927, milwr a oedd wedi ymweld â thraethell Cwmtydu bedair mlynedd ar ddeg ynghynt tra oedd y llong danfor a wasanaethai arni yn llechu yn y bae gerllaw. Bellach, mae hanes glaniad y gelyn ar lan Bae Ceredigion a r cyfarfyddiad anhygoel yn Bremen yn rhan o chwedloniaeth ardal Cwmtydu. Yn ystod blynyddoedd blin 1939-45 bu r tri chapten yn dystion i ddigwyddiadau hanesyddol ac erchyllterau r Ail Ryfel Byd: Dafydd Jeremiah yn dianc rhag crafangau r gelyn yn Norwy; John Etna, yr olaf o forwyr y Cilie, yn garcharor dan ddwylo r Siapaneaid; a Jac Alun yn dyst i ddrama fawr brwydr aber afon Plate a suddo r llong ryfel Almaenig Graff Spee. Wedi r rhyfel cyhuddwyd neb llai na Jac Alun, a enillodd fri cenedlaethol fel englynwr crefftus, o anfon negeseuon cudd a allai fod yn fanteisiol i elyn. A r neges bechadurus honedig? Cyfres o englynion a luniwyd ar gyfer Eisteddfod Rhydlewis! Treuliodd y ddau frawd Lloyd George Jones a Tom Ellis Jones, y naill yn fosn a r llall yn beiriannydd, dros bymtheg mlynedd ar y môr ond ni fu gafael y môr mor dynn ar y gweddill o forwyr y Cilie. Er hynny, nid yw hynt a helyntion morwrol Frederick James Williams, Gerallt Jones a Berian Vaughan, ill tri yn forwyr cyffredin, na throeon eu gyrfaoedd wedi iddynt lyncu r angor, ronyn yn llai diddorol: troes golygon Gerallt Jones tua r weinidogaeth ac ailgydiodd y ddau arall yng nghrefft hynaf dynol-ryw. Tra gwahanol fu hanes Simon B. Jones, gwrthrych y portread agoriadol, a r morwr ieuanc Gwyn Tudur Williams y mae ei hanes yn cloi r gyfrol. Roeddent ill dau yn forwyr undaith yn unig. Serch hynny, bu r un fordaith yn ysbrydoliaeth i Simon B. lunio i gerdd hunangofiannol Rownd yr Horn , y bryddest a enillodd iddo Goron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933. Camp Gwyn Tudur oedd hwylio o amgylch y byd mewn iot yng nghwmni criw o forwyr dibrofiad eraill rhwng Hydref 1999 a Medi 2000. Un fordaith a gwblhawyd gan Elfan James Jones hefyd, aelod o r tylwyth a gâi ei gydnabod a i gofio fel storïwr ffraeth, hanesydd lleol a pherchennog cof diwaelod. Mynn yr awdur na fyddai wedi bod yn bosibl iddo lunio Morwyr y Cilie oni bai fod ei dad, Jac Alun, yn storïwr greddfol ac yn barod i sôn am ei brofiadau. Efallai'n wir, ond oni bai am barodrwydd Jon Meirion i gofnodi r hanesion, ei ddawn dweud a i adnabyddiaeth drylwyr o i fro enedigol a i phobl, go brin y byddai r llyfr campus hwn, na i chwaer gyfrol ysblennydd Teulu r Cilie, wedi gweld golau dydd. Drwy gyfrwng un bywgraffiad ar ddeg dadlennir hynt bro gyfan yn ystod y rhan helaethaf o r ugeinfed ganrif, ei hanes daearyddol, morwrol, amaethyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae n bortread cynnes, cartrefol sy n byrlymu nid yn unig o hiwmor yr awdur ond hefyd ffraethineb y cymeriadau y sonnir amdanynt. Un arall o gymwynasau nid bychan yr awdur oedd casglu ynghyd doreth o luniau trawiadol, ffotograffau y bu n rhaid iddo, megis Simon B. gynt, fynd o Walia/ I r byd sy dros y bar nid yn unig er mwyn tynnu rhai ohonynt ond hefyd i hel y straeon ynghlwm wrthynt. Trist meddwl, fodd bynnag, fod yr aelwydydd diwylliedig y magwyd morwyr y Cilie arnynt yn prysur ddiflannu dan ddylanwad difaol y mewnlifiad sydd, ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, wedi chwalu seiliau r gymdogaeth dda y cyfeirir yn hiraethus ati rhwng deuglawr campwaith Jon Meirion.

Specificaties

  • Uitgever
    Cyhoeddiadau Barddas
  • Verschenen
    dec. 2002
  • Bladzijden
    446
  • Genre
    Sociale en culturele geschiedenis
  • Afmetingen
    1 x 1 mm
  • EAN
    9781900437547
  • Paperback
    Paperback
  • Taal
    Welsh

Gerelateerde producten

Verloren wereld in de Amstelbocht

Verloren wereld in de Amstelbocht

Maarten Hell
€ 34,99
Een laatkoloniaal experiment

Een laatkoloniaal experiment

Karel Davids
€ 29,99
India

India

Gie Goris
€ 29,99
Drie vrouwen

Drie vrouwen

Marie-Claire Melzer
€ 22,99