• Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk
  • Geen verzendkosten vanaf €15,-
  • Uw cadeaus gratis ingepakt
  • Bestellen zonder account mogelijk

Tua'r Gorllewin - Cofiant T. Llew Jones

Idris Reynolds

Tua'r Gorllewin - Cofiant T. Llew Jones
Tua'r Gorllewin - Cofiant T. Llew Jones

Tua'r Gorllewin - Cofiant T. Llew Jones

Idris Reynolds

Paperback | Welsh
  • Niet leverbaar
€ 12,95
  • Vanaf €15,- geen verzendkosten.
  • 30 dagen ruiltermijn voor fysieke producten

Omschrijving

Gadawodd T. Llew Jones ei ôl ar y genedl mewn nifer o wahanol feysydd, ac yn y gyfrol hon trafodir y bardd a'r nofelydd, y beirniad llenyddol, yr athro ysgol, y gwyddbwyllwr a'r hynafiaethydd. Nid anghofir chwaith am y cwmnïwr diddan, y ffigwr cyhoeddus a'r penteulu preifat. Ac yn gefnlen i'r portread ceir cip ar hud a lledrith gorllewin...

Fel un a dyfodd i fod yn eicon yn ei oes ei hun, nid rhyfedd bod sawl cyfrol am T. Llew Jones wedi ymddangos mor fuan ar ôl ei farw. Diau y gwelir mwy yn y dyfodol yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o'i fywyd a’i waith, ond cofiant cyflawn sy’n cyffwrdd â phob agwedd a geir yn y gyfrol hon, gan un a’i hadwaenai’n dda ac sy’n un o’i edmygwyr selocaf. Teitl addas yw Tua’r Gorllewin, sef deuair cyntaf y llinell gofiadwy honno gan T. Llew, ‘Tua’r gorllewin mae bro eithinog’, a hyfryd o baragraffau agoriadol sydd gan Idris Reynolds yma, lle trewir y nodyn o hud a lledrith sydd mor amlwg yng ngwaith y bardd a’r nofelydd drwyddo draw, yn enwedig yn ei gyfraniad toreithiog i lenyddiaeth plant Cymru. Honnodd ef ei hun fod ‘rhyw Peter Pan o’i fewn na fynnai heneiddio’, a phan holai’r plant ef am eirwiredd y stori a adroddai iddynt, ‘gallai’ yn ôl ei gofiannydd, ‘edrych i fyw eu llygaid ac ateb gyda chydwybod glir: "Mae’n wir i fi."’ Ond ni allodd T. Llew Jones, fwy na’r un ohonom, ymgartrefu’n barhaol yn y gorllewin hudol hwnnw, ac o’i eni yn 1915 hyd ei farw yn 2009, daeth i’w ran yntau y melys a’r chwerw: plentyndod hapus ond tlawd, colli ei dad yn ieuanc a gorfod mynd allan i ennill trwy weithio ar ffermydd, torri coed, cario post, maglu cwningod, clercio mewn swyddfa a chasglu yswiriant. Treulio pum mlynedd ‘yn gaeth i iwnifform a disgyblaeth’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn hiraethu am wraig a mab ieuanc yn ôl yng Nghymru. Ac felly yn y blaen. Cawn ddarllen am ei yrfa ym myd addysg, ei ysfa i ysgrifennu, ei gampau eisteddfodol, ei ddiddordeb mewn llên gwerin a llawer mwy. Heb lynu’n rhy agos at y drefn gronolegol, adroddir ei hanes yn raenus-hamddenol ac yn ddifyr, gan blethu iddo ddyfyniadau o’i farddoniaeth. Un o’r penodau mwyaf diddorol yn y gyfrol, a hynny’n bennaf am fod ynddi ddeunydd a fydd yn newydd i lawer darllenydd, yw’r bennod ‘A chwaraei di wyddbwyll?’ Yr oedd diddordeb a gallu T. Llew mewn perthynas â’r chwarae hynafol hwn (heb sôn am ddisgleirdeb ei fab Iolo wrth ei arfer) yn wybyddus i lawer, ond faint ohonom a wyddai mai trwy ei ymdrechion ef ac ychydig Gymry o gyffelyb fryd y ‘cafodd Cymru eistedd yn ei phriod le o gylch y bwrdd gwyddbwyll gyda chenhedloedd eraill y byd’ yn hytrach na bod yn hollol glwm wrth Loegr? Ac y mae llawer agoriad llygad arall yn y bennod bwysig hon yr oedd mawr angen ei hysgrifennu. Gwelwyd yr un penderfyniad a dygnwch yn ei wrthwynebiad i ‘Gymraeg Byw’ a’i safiad digymrodedd yn erbyn yr hyn a alwai’n ‘farddoniaeth dywyll’. Ar ôl cael ei glwyfo – ac yr oedd yn un hawdd i’w glwyfo – gan adolygiad un o feirdd mwyaf dyrys ei gyfnod ar gyfrol o’i gerddi, sylw T. Llew mewn sgwrs gyhoeddedig ddiweddarach oedd, ‘Nid oes gan y critics mwyaf ddim golwg ar y math o farddoniaeth a sgrifennaf i. Ac i fod yn onest nid oes gennyf innau ddim golwg ar y math o farddoniaeth dywyll a diawen a glodforir ganddynt hwy’. Touché yn wir! Ar glawr y gyfrol ceir darlun o T. Llew yn eistedd o flaen arwydd ffordd sy’n cynnwys pedwar o enwau lleoedd ei filltir sgwâr. O’r pedwar, un yn unig a sillafwyd yn gywir yn ôl yr egwyddorion a geir yn Rhestr o Enwau Lleoedd a gyhoeddwyd gan Brifysgol Cymru yn 1957. Ar Gyngor Sir Ceredigion y mae’r bai am hynny, wrth gwrs, a da yw cael cyhoeddi na cheir cyffelyb slapdashrwydd rhwng cloriau’r gyfrol hon. Da gweld hefyd barchu’r hen arfer o hepgor y fannod o flaen enw afon yn y Gymraeg. Pethau bychain efallai, ond pethau sy’n ychwanegu’n ddirfawr at y pleser a’r mwyniant a geir o ddarllen y cofiant campus hwn i un o gymwynaswyr mawr Cymru a’r Gymraeg yn ein dyddiau ni.

Specificaties

  • Uitgever
    Cyhoeddiadau Barddas
  • Verschenen
    jul. 2011
  • Bladzijden
    216
  • Genre
    Biografie: algemeen
  • Afmetingen
    1 x 1 mm
  • EAN
    9781906396374
  • Paperback
    Paperback
  • Taal
    Welsh

Gerelateerde producten

PRIO 1

PRIO 1

Tom van der Weerd
€ 20,99
Betoverende Stilte

Betoverende Stilte

Florian Illies
€ 24,99
Henny Vrienten

Henny Vrienten

Leo Oldenburger
€ 22,99
Moeders des Vaderlands

Moeders des Vaderlands

Femke Deen
€ 29,99
De omwenteling

De omwenteling

Suzanna Jansen
€ 23,99