Mae'r llyfr hwn yn astudiaeth o'r modd y mae'r gyfraith wedi cael ei phortreadu gan feirdd a llenorion Cymraeg, o'r Oesoedd Canol hyd at heddiw. Adroddir hanes Cymru trwy gyfrwng delweddau o'r gyfraith mewn llenyddiaeth.
Mae R. Gwynedd Parry yn ysgolhaig ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn fargyfreithiwr. Yn 2010, cafodd ei ethol yn Gymrawd i'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.