Omschrijving
Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd y gyfrol ffordd newydd i ddehongli athrylith yr emynydd o Bantycelyn, a thrwy hynny sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar ei genhedlaeth.
Roedd Saunders Lewis yn ddramodydd, bardd, nofelydd, beirniad ac arweinydd gwleidyddol.Mae D. Densil Morgan yn Athro Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Cyhoeddodd yn helaeth ar hanes crefydd a diwylliant yng Nghymru'r cyfnod modern.